SL(5)262 - Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o gyfres o offerynnau statudol sy'n ymwneud â systemau draenio cynaliadwy a darpariaethau Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth:
· ar gyfer y weithdrefn mewn perthynas â phenderfyniad cyrff cymeradwyo am geisiadau i gymeradwyo systemau draenio cynaliadwy ac i fabwysiadu systemau draenio o’r fath, a materion ategol; ac
· mewn perthynas â gwaith statudol ar dir cyhoeddus a allai gael effaith ar systemau o'r fath.
Daw y Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae rheoliad 13 yn diffinio "ymgymerwr statudol" fel person sydd â hawl i wneud gwaith statudol ar dir cyhoeddus o dan ddarpariaeth deddfiad a restrir yn Rheoliad 16 o'r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, nid yw Rheoliad 16 yn rhestru unrhyw ddeddfiadau.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Dylai rheoliad 13 gyfeirio at reoliad 14, yn hytrach na rheoliad 16. Gwall teipio yw hwn, ac fe fyddwn yn ei gywiro drwy ddefnyddio slip cywiro.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
29 Hydref 2018